Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2020
Amser:
13.00 -
16.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6401
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Vikki Howells AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS Rhun ap Iorwerth AS |
Tystion: |
Shan Morgan, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher Alastair McQuaid |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: effeithiau ar Lywodraeth Cymru
2.1 Holodd y Pwyllgor Shan Morgan – yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, Andrew Slade, Andrew Jeffreys, Gawain Evans a David Richards fel rhan o’i ymchwiliad i COVID-19 ar yr effeithiau ar Lywodraeth Cymru.
2.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n ysgrifennu ati gyda’r meysydd holi na chyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian
5.1 Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian, a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.
6 Blaenraglen waith: Trafod y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2020
6.1 Ystyriodd a thrafododd yr Aelodau eu blaenoriaethau o ran blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2020. Yn dilyn y drafodaeth hon, bydd y clercod yn paratoi papur arall i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.